Gweld lle mae'ch manylion preifat wedi'u datgelu — a'u cael yn nôl
Rydym yn sganio tor-data i weld a yw'ch data wedi'u datgelu ac yn cynnig camau i chi i'w drwsio.
Mae tor-data yn digwydd bob 11 munud, gan ddatgelu eich manylion preifat - ond peidiwch â phoeni, gallwn eich helpu.
Byddwn yn eich helpu i drwsio'ch datgeliadau
Ein cenhadaeth yw rhoi rheolaeth ar eich data personol yn ôl yn eich dwylo chi. Byddwn yn eich helpu i ddatrys tor-data a chadw'ch manylion yn breifat - a byddwn yn parchu eich preifatrwydd yn ystod y broses.
Pa fanylion gall fod mewn perygl?
Yn anffodus, mae gollyngiadau data yn rhan o'n bywydau digidol. Gall eich cyfrineiriau, manylion cyswllt, manylion ariannol, a manylion bersonol eraill gael eu datgelu, gan eich rhoi mewn perygl o ddwyn hunaniaeth.
Sganiwch eich e-bost i ddechrau
Dyma sut rydyn ni'n helpu i'ch diogelu chi
Rydym yn credu yn eich hawl i breifatrwydd, felly mae diogelwch monitro tor-data bob amser ar gael yn rhad ac am ddim.
- Byddwn yn chwilio amdanoch ym mhob achos hysbys o dor-data
- Byddwn yn eich arwain trwy'r camau i ddatrys pob tor-data
- Byddwn yn monitro ac yn anfon rhybuddion atoch yn barhaus am unrhyw dor-data newydd
Cwestiynau cyffredinGweld yr holl gwestiynau cyffredin
Ail feddiannwch eich rheolaeth o'ch data