MyFitnessPal

myfitnesspal.com

Trosolwg

Ar ⁨1 Chwefror 2018⁩, profodd ⁨MyFitnessPal⁩ dor-data. Unwaith y cafodd y tor-data ei ddarganfod a'i ddilysu, cafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata ar ⁨21 Chwefror 2019⁩.

Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?

Pa ddata a gyfaddawdwyd:

  • Cyfrineiriau
  • Cyfeiriad IP
  • Cyfeiriadau e-bost
  • Enwau Defnyddwyr
Data tor-data wedi'i ddarparu gan Have I Been Pwned

Beth i'w wneud am y tor-data hwn

Rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau hyn i gadw'ch manylion personol yn ddiogel ac amddiffyn eich hunaniaeth ddigidol.

Newidiwch eich cyfrinair

Gwnewch y cyfrinair hwn yn unigryw ac yn wahanol i unrhyw rai eraill rydych chi'n eu defnyddio. Syniad dda yw cyfuno dau neu fwy o eiriau digyswllt er mwyn creu cyfrinymadrodd cyfan a chynnwys rhifau a symbolau.

Diweddarwch fewngofnodion eraill sy'n defnyddio'r un cyfrinair

Mae ailddefnyddio cyfrineiriau yn troi un tor-data yn un niferus. Nawr bod y cyfrinair ym ar gael, gall hacwyr ei ddefnyddio i fynd at gyfrifon eraill.

Defnyddiwch VPN i guddio'ch cyfeiriad IP

Mae eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (cyfeiriad IP) yn amlygu'ch lleoliad a'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd. Mae gwasanaeth fel ⁨Mozilla VPN⁩ yn cuddio'ch cyfeiriad IP er mwyn cuddio'ch lleoliad.

Rhowch gynnig ar ⁨Mozilla VPN⁩
Defnyddiwch enwarall e-bost

Mae rhoi eich cyfeiriad e-bost go iawn yn ei gwneud hi'n haws i hacwyr neu dracwyr ddod o hyd i'ch cyfrineiriau neu eich targedu ar-lein. Mae gwasanaeth fel ⁨Firefox Relay⁩ yn cuddio'ch cyfeiriad e-bost go iawn wrth anfon e-byst i'ch mewnflwch go iawn.

Rhowch gynnig ar ⁨Firefox Relay⁩
Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw, cryf ar gyfer pob cyfrif

Mae ailddefnyddio cyfrinair yn peryglu'ch holl gyfrifon. Os fydd un cyfrinair yn cael ei ddatgelu, mae gan hacwyr yr allwedd i lawer o'ch cyfrifon.

Cadwch eich cyfrineiriau mewn man diogel

Cadwch eich manylion mewngofnodi mewn man diogel, lle dim ond chi sy'n gallu cael mynediad atyn nhw, fel mewn rheolwr cyfrinair. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd cadw golwg ar eich holl gyfrineiriau gwahanol.

Byddwch yn ofalus am rannu manylion personol

Peidiwch â rhannu data personol os nad oes raid i chi wneud hynny. Os oes gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cod ZIP, neu rif ffôn, gallwch ddweud na.

Diweddarwch feddalwedd ac apiau'n rheolaidd

Mae diweddaru eich apiau ffôn clyfar, porwyr, a systemau gweithredu yn gwneud eich dyfeisiau'n fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn cywiro gwallau, gwendidau meddalwedd, a phroblemau diogelwch.

Beth yw tor-data gwefan?

Mae tor-data gwefan yn digwydd pan fydd troseddwyr seibr yn dwyn, copïo neu ddatgelu manylion personol o gyfrifon ar-lein. Mae fel arfer yn ganlyniad i hacwyr yn dod o hyd i fan gwan ym maes diogelwch y wefan. Gall achosion o dor-data ddigwydd hefyd pan fydd manylion cyfrifon yn cael eu datgelu'n ddamweiniol.

Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?

Weithiau gall gymryd rhai misoedd neu flynyddoedd i fanylion gafodd eu datgelu mewn tor-data i ymddangos ar y we dywyll. Caiff tori-data eu hychwanegu at ein cronfa ddata cyn gynted ag y byddant yn cael eu darganfod a'u dilysu.