NIUS
Trosolwg
Ar 13 Gorffennaf 2025, profodd NIUS dor-data. Unwaith y cafodd y tor-data ei ddarganfod a'i ddilysu, cafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata ar 23 Awst 2026.
Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?
Pa ddata a gyfaddawdwyd:
Rhifau cyfrif banc
Data cerdyn credyd rhannol
Cyfeiriadau e-bost
Cyfeiriadau corfforol
Enwau, Eitemau wedi'u prynu
Darganfyddwch a oeddech yn gysylltiedig â'r tor-data hwn
Byddwn yn eich helpu i weld yn gyflym a oedd eich cyfeiriad e-bost wedi'i ddatgelu drwy'r tor-data hwn, a gwybod beth i'w wneud nesaf.Beth i'w wneud i ddiogelu eich manylion personol
Er nad oedd cyfrineiriau wedi'u hamlygu yn y tor-data hwn, mae yna gamau y gallwch eu cymryd o hyd i ddiogelu eich manylion personol yn well.
Cadw llygad ar eich datganiadau banc
Gwiriwch eich datganiadau banc am weithgaredd amheus neu daliadau anarferol. Rhowch wybod i'ch banc os fyddwch yn gweld unrhyw beth anghyfarwydd.
Cadw llygad ar eich datganiadau cerdyn banc
Cadwch lygad ar daliadau annisgwyl ar eich cerdyn credyd. Efallai y bydd angen gofyn am gerdyn newydd gyda rhif newydd gan gyhoeddwr eich cerdyn credyd.
Defnyddiwch enwarall e-bost
Mae rhoi eich cyfeiriad e-bost go iawn yn ei gwneud hi'n haws i hacwyr neu dracwyr ddod o hyd i'ch cyfrineiriau neu eich targedu ar-lein. Mae gwasanaeth fel Firefox Relay yn cuddio'ch cyfeiriad e-bost go iawn wrth anfon e-byst i'ch mewnflwch go iawn.
Rhowch gynnig ar Firefox RelayOsgoi defnyddio cyfeiriadau mewn cyfrineiriau
Mae defnyddio cyfeiriadau neu enw'r stryd lle cawsoch chi eich magu yn gwanhau'ch cyfrineiriau. Gan ei bod yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth hon yn gyhoeddus, mae'n gwneud y cyfrineiriau hyn yn hawdd eu dyfalu.
Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw, cryf ar gyfer pob cyfrif
Mae ailddefnyddio cyfrinair yn peryglu'ch holl gyfrifon. Os fydd un cyfrinair yn cael ei ddatgelu, mae gan hacwyr yr allwedd i lawer o'ch cyfrifon.
Cadwch eich cyfrineiriau mewn man diogel
Cadwch eich manylion mewngofnodi mewn man diogel, lle dim ond chi sy'n gallu cael mynediad atyn nhw, fel mewn rheolwr cyfrinair. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd cadw golwg ar eich holl gyfrineiriau gwahanol.
Byddwch yn ofalus am rannu manylion personol
Peidiwch â rhannu data personol os nad oes raid i chi wneud hynny. Os oes gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cod ZIP, neu rif ffôn, gallwch ddweud na.
Diweddarwch feddalwedd ac apiau'n rheolaidd
Mae diweddaru eich apiau ffôn clyfar, porwyr, a systemau gweithredu yn gwneud eich dyfeisiau'n fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn cywiro gwallau, gwendidau meddalwedd, a phroblemau diogelwch.
Sut mae Mozilla Monitor yn trin gwefannau sensitif?
Mae Mozilla Monitor yn datgelu cyfrifon sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o tor-data dim ond ar ôl i gyfeiriad e-bost gael ei ddilysu. Mae hyn yn golygu mai chi yw'r unig berson all weld a oedd eich manylion yn rhan o'r tor-data hwn (oni bai bod gan rywun arall fynediad i'ch cyfrif e-bost).
Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?
Weithiau gall gymryd rhai misoedd neu flynyddoedd i fanylion gafodd eu datgelu mewn tor-data i ymddangos ar y we dywyll. Caiff tori-data eu hychwanegu at ein cronfa ddata cyn gynted ag y byddant yn cael eu darganfod a'u dilysu.