Netshoes

netshoes.com.br

Trosolwg

Ar ⁨7 Rhagfyr 2017⁩, profodd ⁨Netshoes⁩ dor-data. Unwaith y cafodd y tor-data ei ddarganfod a'i ddilysu, cafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata ar ⁨10 Rhagfyr 2017⁩.

Pa ddata a gyfaddawdwyd:

  • Cyfeiriadau e-bost
  • Dyddiadau geni
  • Enwau, Eitemau wedi'u prynu
Data tor-data wedi'i ddarparu gan Have I Been Pwned

Beth i'w wneud i ddiogelu eich manylion personol

Er nad oedd cyfrineiriau wedi'u hamlygu yn y tor-data hwn, mae yna gamau y gallwch eu cymryd o hyd i ddiogelu eich manylion personol yn well.

Defnyddiwch enwarall e-bost

Mae rhoi eich cyfeiriad e-bost go iawn yn ei gwneud hi'n haws i hacwyr neu dracwyr ddod o hyd i'ch cyfrineiriau neu eich targedu ar-lein. Mae gwasanaeth fel ⁨Firefox Relay⁩ yn cuddio'ch cyfeiriad e-bost go iawn wrth anfon e-byst i'ch mewnflwch go iawn.

Rhowch gynnig ar ⁨Firefox Relay⁩
Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol mewn PIN

Gan fod eich dyddiad geni yn hawdd ei ddarganfod mewn cofnodion cyhoeddus, mae'n well osgoi ei ddefnyddio mewn cyfrineiriau a PIN. Mae'n bosib y gall pobl sy'n gwybod dyddiad eich pen-blwydd ddyfalu'ch PIN yn hawdd wedyn.

Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw, cryf ar gyfer pob cyfrif

Mae ailddefnyddio cyfrinair yn peryglu'ch holl gyfrifon. Os fydd un cyfrinair yn cael ei ddatgelu, mae gan hacwyr yr allwedd i lawer o'ch cyfrifon.

Cadwch eich cyfrineiriau mewn man diogel

Cadwch eich manylion mewngofnodi mewn man diogel, lle dim ond chi sy'n gallu cael mynediad atyn nhw, fel mewn rheolwr cyfrinair. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd cadw golwg ar eich holl gyfrineiriau gwahanol.

Byddwch yn ofalus am rannu manylion personol

Peidiwch â rhannu data personol os nad oes raid i chi wneud hynny. Os oes gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cod ZIP, neu rif ffôn, gallwch ddweud na.

Diweddarwch feddalwedd ac apiau'n rheolaidd

Mae diweddaru eich apiau ffôn clyfar, porwyr, a systemau gweithredu yn gwneud eich dyfeisiau'n fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn cywiro gwallau, gwendidau meddalwedd, a phroblemau diogelwch.

Beth yw tor-data gwefan?

Mae tor-data gwefan yn digwydd pan fydd troseddwyr seibr yn dwyn, copïo neu ddatgelu manylion personol o gyfrifon ar-lein. Mae fel arfer yn ganlyniad i hacwyr yn dod o hyd i fan gwan ym maes diogelwch y wefan. Gall achosion o dor-data ddigwydd hefyd pan fydd manylion cyfrifon yn cael eu datgelu'n ddamweiniol.