Samsung Germany Customer Tickets
Trosolwg
Ar 30 Mawrth 2025, profodd Samsung Germany Customer Tickets dor-data. Unwaith y cafodd y tor-data ei ddarganfod a'i ddilysu, cafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata ar 13 Ebrill 2025.
Pa ddata a gyfaddawdwyd:
Cyfeiriadau e-bost
Cyfeiriadau corfforol
Enwau, Eitemau wedi'u prynu, Cyfarchion, shipment-tracking-numbers, Tocynnau cymorth
Darganfyddwch a oeddech yn gysylltiedig â'r tor-data hwn
Byddwn yn eich helpu i weld yn gyflym a oedd eich cyfeiriad e-bost wedi'i ddatgelu drwy'r tor-data hwn, a gwybod beth i'w wneud nesaf.Beth i'w wneud i ddiogelu eich manylion personol
Er nad oedd cyfrineiriau wedi'u hamlygu yn y tor-data hwn, mae yna gamau y gallwch eu cymryd o hyd i ddiogelu eich manylion personol yn well.
Defnyddiwch enwarall e-bost
Mae rhoi eich cyfeiriad e-bost go iawn yn ei gwneud hi'n haws i hacwyr neu dracwyr ddod o hyd i'ch cyfrineiriau neu eich targedu ar-lein. Mae gwasanaeth fel Firefox Relay yn cuddio'ch cyfeiriad e-bost go iawn wrth anfon e-byst i'ch mewnflwch go iawn.
Rhowch gynnig ar Firefox RelayOsgoi defnyddio cyfeiriadau mewn cyfrineiriau
Mae defnyddio cyfeiriadau neu enw'r stryd lle cawsoch chi eich magu yn gwanhau'ch cyfrineiriau. Gan ei bod yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth hon yn gyhoeddus, mae'n gwneud y cyfrineiriau hyn yn hawdd eu dyfalu.
Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw, cryf ar gyfer pob cyfrif
Mae ailddefnyddio cyfrinair yn peryglu'ch holl gyfrifon. Os fydd un cyfrinair yn cael ei ddatgelu, mae gan hacwyr yr allwedd i lawer o'ch cyfrifon.
Cadwch eich cyfrineiriau mewn man diogel
Cadwch eich manylion mewngofnodi mewn man diogel, lle dim ond chi sy'n gallu cael mynediad atyn nhw, fel mewn rheolwr cyfrinair. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd cadw golwg ar eich holl gyfrineiriau gwahanol.
Byddwch yn ofalus am rannu manylion personol
Peidiwch â rhannu data personol os nad oes raid i chi wneud hynny. Os oes gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cod ZIP, neu rif ffôn, gallwch ddweud na.
Diweddarwch feddalwedd ac apiau'n rheolaidd
Mae diweddaru eich apiau ffôn clyfar, porwyr, a systemau gweithredu yn gwneud eich dyfeisiau'n fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn cywiro gwallau, gwendidau meddalwedd, a phroblemau diogelwch.
Beth yw tor-data gwefan?
Mae tor-data gwefan yn digwydd pan fydd troseddwyr seibr yn dwyn, copïo neu ddatgelu manylion personol o gyfrifon ar-lein. Mae fel arfer yn ganlyniad i hacwyr yn dod o hyd i fan gwan ym maes diogelwch y wefan. Gall achosion o dor-data ddigwydd hefyd pan fydd manylion cyfrifon yn cael eu datgelu'n ddamweiniol.