Upstox
Trosolwg
Ar 8 Ebrill 2021, profodd Upstox dor-data. Unwaith y cafodd y tor-data ei ddarganfod a'i ddilysu, cafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata ar 19 Ionawr 2022.
Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?
Pa ddata a gyfaddawdwyd:
IDau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth
Cyfrineiriau
Rhifau cyfrif banc
Rhifau ffôn
Cyfeiriadau e-bost
Dyddiadau geni
Cyfeiriadau corfforol
Enwau aelodau'r teulu, Gender, Lefelau incwm, Statws priodasol, Cenedligrwydd, Galwedigaethau
Darganfyddwch a oeddech yn gysylltiedig â'r tor-data hwn
Byddwn yn eich helpu i weld yn gyflym a oedd eich cyfeiriad e-bost wedi'i ddatgelu drwy'r tor-data hwn, a gwybod beth i'w wneud nesaf.Beth i'w wneud am y tor-data hwn
Rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau hyn i gadw'ch manylion personol yn ddiogel ac amddiffyn eich hunaniaeth ddigidol.
Newidiwch eich cyfrinair
Gwnewch y cyfrinair hwn yn unigryw ac yn wahanol i unrhyw rai eraill rydych chi'n eu defnyddio. Syniad dda yw cyfuno dau neu fwy o eiriau digyswllt er mwyn creu cyfrinymadrodd cyfan a chynnwys rhifau a symbolau.
Diweddarwch fewngofnodion eraill sy'n defnyddio'r un cyfrinair
Mae ailddefnyddio cyfrineiriau yn troi un tor-data yn un niferus. Nawr bod y cyfrinair ym ar gael, gall hacwyr ei ddefnyddio i fynd at gyfrifon eraill.
Cadw llygad ar eich datganiadau banc
Gwiriwch eich datganiadau banc am weithgaredd amheus neu daliadau anarferol. Rhowch wybod i'ch banc os fyddwch yn gweld unrhyw beth anghyfarwydd.
Ceisiwch osgoi rhannu eich rhif ffôn
Ceisiwch osgoi rannu eich rhif ffôn wrth gofrestru am gyfrifon neu wasanaethau newydd. Os nad oes angen rhif ffôn, peidiwch â'i roi.
Defnyddiwch enwarall e-bost
Mae rhoi eich cyfeiriad e-bost go iawn yn ei gwneud hi'n haws i hacwyr neu dracwyr ddod o hyd i'ch cyfrineiriau neu eich targedu ar-lein. Mae gwasanaeth fel Firefox Relay yn cuddio'ch cyfeiriad e-bost go iawn wrth anfon e-byst i'ch mewnflwch go iawn.
Rhowch gynnig ar Firefox RelayPeidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol mewn PIN
Gan fod eich dyddiad geni yn hawdd ei ddarganfod mewn cofnodion cyhoeddus, mae'n well osgoi ei ddefnyddio mewn cyfrineiriau a PIN. Mae'n bosib y gall pobl sy'n gwybod dyddiad eich pen-blwydd ddyfalu'ch PIN yn hawdd wedyn.
Osgoi defnyddio cyfeiriadau mewn cyfrineiriau
Mae defnyddio cyfeiriadau neu enw'r stryd lle cawsoch chi eich magu yn gwanhau'ch cyfrineiriau. Gan ei bod yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth hon yn gyhoeddus, mae'n gwneud y cyfrineiriau hyn yn hawdd eu dyfalu.
Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw, cryf ar gyfer pob cyfrif
Mae ailddefnyddio cyfrinair yn peryglu'ch holl gyfrifon. Os fydd un cyfrinair yn cael ei ddatgelu, mae gan hacwyr yr allwedd i lawer o'ch cyfrifon.
Cadwch eich cyfrineiriau mewn man diogel
Cadwch eich manylion mewngofnodi mewn man diogel, lle dim ond chi sy'n gallu cael mynediad atyn nhw, fel mewn rheolwr cyfrinair. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd cadw golwg ar eich holl gyfrineiriau gwahanol.
Byddwch yn ofalus am rannu manylion personol
Peidiwch â rhannu data personol os nad oes raid i chi wneud hynny. Os oes gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cod ZIP, neu rif ffôn, gallwch ddweud na.
Diweddarwch feddalwedd ac apiau'n rheolaidd
Mae diweddaru eich apiau ffôn clyfar, porwyr, a systemau gweithredu yn gwneud eich dyfeisiau'n fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn cywiro gwallau, gwendidau meddalwedd, a phroblemau diogelwch.
Beth yw tor-data gwefan?
Mae tor-data gwefan yn digwydd pan fydd troseddwyr seibr yn dwyn, copïo neu ddatgelu manylion personol o gyfrifon ar-lein. Mae fel arfer yn ganlyniad i hacwyr yn dod o hyd i fan gwan ym maes diogelwch y wefan. Gall achosion o dor-data ddigwydd hefyd pan fydd manylion cyfrifon yn cael eu datgelu'n ddamweiniol.
Pam y cymerodd gymaint o amser i adrodd ar y tor-data hwn?
Weithiau gall gymryd rhai misoedd neu flynyddoedd i fanylion gafodd eu datgelu mewn tor-data i ymddangos ar y we dywyll. Caiff tori-data eu hychwanegu at ein cronfa ddata cyn gynted ag y byddant yn cael eu darganfod a'u dilysu.